MAE Pwyllgor y Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd 2020 wrthi’n trefnu ocsiwn addewidion, a fydd yn cyfrannu tuag at eu targed fel pwyllgor o hel arian ar gyfer yr Eisteddfod.

Dewch yn llu i'n cefnogi yn nhafarn Y Plu, Stryd y Ffynnon yn Rhuthun, nos Wener, Gorffennaf 12, am 7.30yh. Bydd yr arian yn mynd tuag at banel y dysgwyr, sydd a chynlluniau i gynnwys ymwelwyr di-Gymraeg / ail-iaith i'r Eisteddfod yn Ninbych am 2020. Ewch i gael eich diddanu gan gymeriad hoffus lleol ac arwerthwr y noson, Sion Eilir.

Derbynnir sieciau neu arian parod ar y noson.

Dymuna’r pwyllgor ddiolch o galon i bawb sydd wedi cyfrannu addewidion. Mae’n argoeli’n noson dda!

Cyrsiau am ddim i wella cyflogadwyedd

MAE cyfres o gyrsiau am ddim i helpu pobl ddychwelyd i gyflogaeth neu i ddatblygu eu gyrfa ar y gweill.

Mae prosiect Sir Ddinbych yn Gweithio gan Gyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â GLlM yn bwriadu cynnal pump cwrs arbenigol 10 wythnos o fis Medi.

Mae cyrsiau yn cynnwys sut i ddechrau gyrfa mewn gweinyddu busnes, gofal, adeiladu, manwerthu a lletygarwch.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â 01492 546666.